Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiabetes
Dydd Mawrth 12 Tachwedd 2013
Yn bresennol
Jenny Rathbone AC (Cadeirydd)
Chris Williams (Novo Nordisk)
Yvonne Johns (Grwpiau Cyfeirio Diabetes Gogledd Cymru)
C Hugh Thomas (Fferylliaeth Gymunedol Cymru)
Wendy Gane (Cymorth gan eraill sydd â Diabetes)
Dr Sarah Davies (Meddyg Teulu Caerdydd)
Penny Griffiths (Abbott Diabetes Care)
Jackie Dent (Prif gydgysylltydd Diabetes yng Nghymru, wedi ymddeol)
Lynne Hughes (Coleg Brenhinol y Nyrsys)
John Griffiths (Aelod lleyg)
Jason Harding (Diabetes UK Cymru)
Dai Williams (Diabetes UK Cymru)
Edward Rees (Llywodraeth Cymru)
Chris Dawson (Llywodraeth Cymru)
Robert Wright (Aelod lleyg)
Colette Skilling (Medtronic)
David Chapman (Yn cynrychioli Medtronic)
Scott Cawley (Podiatreg Cymru Gyfan)
Patrice Cowan (SANOFI)
Lesley Jordan (Input Patient Advocacy)
Paul Coker (Input Patient Advocacy)
David Rees AC
Julie Morgan AC
Helen Cunningham (Swyddfa Jenny Rathbone AC)
Mirriam Dupree (Swyddfa Jenny Rathbone AC)
Ymddiheuriadau
Dr Lindsay George
Steve Bain (Prifysgol Abertawe)
David Miller Jones Meddyg Teulu
Helen Nicholls (Cymdeithas Ddeieteg Prydain)
Pippa Ford (CSP)
Hoffai’r grŵp trawsbleidiol ddiolch i’r sefydliadau canlynol am eu cymorth:
Cyflwyniadau
Croesawodd Jenny Rathbone y rhai a oedd yn bresennol, i 7fed
cyfarfod y grŵp yn y 4ydd Cynulliad. Cyflwynodd yr aelodau eu
hunain a’u sefydliadau.
1.
Cofnodion a materion yn codi
Cytunodd y grŵp ar gywirdeb cofnodion cyfarfod 30 Ebrill
2013.
Nid yw Adam Cairns wedi adrodd yn ôl eto ar
ganllawiau rhagnodi i Feddygon Teulu ar stribedi profi
glwcos. (29 Ionawr Cyfarfod 13
).
(JR i fynd ar drywydd hyn)
2. Law yn Llaw at Iechyd - cynllun cyflenwi diabetes
Eglurodd Chris Dawson fod y Cynllun Cyflenwi Diabetes yn un o gyfres yr oedd Llywodraeth Cymru yn ei datblygu ar gyfer gwahanol gyflyrau. Mae’r Cynllun Diabetes yn fwriadol fyr gan ganolbwyntio ar ganlyniadau i’r claf a gyda mesurau i fesur cynnydd. Cafodd ei ddatblygu gyda chyfraniad gan amrywiaeth o randdeiliaid, yn cynnwys clinigwyr ac aelodau. Cafodd argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol eu cynnwys yn y cynllun.
Byddai adroddiadau blynyddol yn cael eu cyhoeddi ar wefan "fy
ngwasanaeth iechyd lleol", a fydd yn galluogi’r cyhoedd i
edrych ar wasanaethau yn eu hardal, gan ysgogi ac ychwanegu
dilyniant i’r cynllun.
Roedd y sylwadau’n cynnwys:
Credai Dai Williams fod byrddau iechyd yn parhau i feddwl ar
wahân; yn lleol yn hytrach nag yn genedlaethol, a bydd
arweinydd clinigol a enwir ym mhob bwrdd iechyd yn hanfodol i
sicrhau bod byrddau iechyd lleol yn cydweithio.
Nododd Yvonne Johns newid yng Ngogledd Cymru ers cyfarfod
diwethaf y Grŵp Trawsbleidiol. Cynhaliwyd dau gyfarfod gyda
Deloitte, i edrych ar "ble’r ydym" a "ble’r hoffem fod"
o ran cynllun gofal. Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn ailfeddwl
sut i ddarparu gofal diabetes. Caiff ei ddatblygu dros gyfnod o
dair blynedd gan ddefnyddio arbedion a wnaed mewn gofal eilradd.
Ychwanegodd Yvonne fod rhagor o waith i’w wneud gyda gofal
sylfaenol a theimlai fod angen gwneud dau benodiad newydd.
Robert Wright: Dylid trosglwyddo cylch gorchwyl i lawr yn
genedlaethol yn hytrach na’u datblygu’n lleol, er mwyn
cysondeb. Ymatebodd Dai Williams drwy ddweud ei fod yn deall eu bod
i gael eu trosglwyddo i lawr yn genedlaethol.
Dywedodd Julie Morgan fod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, y mae
hi a JR yn aelodau ohono, yn edrych ar ofal heb ei drefnu ar hyn o
bryd. Gofynnodd JR sut y gellid darparu addysg i gleifion yn
effeithiol pan oedd ei angen fwyaf - mewn perthynas â
diagnosis.
Ymatebodd Chris Dawson ac Ed Rees: Mae’n rhaid i gynlluniau ystyried symudiad cleifion dros ffiniau. Bydd y grŵp cyflawni cenedlaethol yn helpu i wneud i gynlluniau adlewyrchu blaenoriaethau cenedlaethol a mynd i’r afael â materion trawsffiniol. Caiff pob grŵp cyflawni lleol ei gynrychioli ar Grŵp Cyflenwi Cymru Gyfan.
Caiff y cylch gorchwyl ei lunio gan y grŵp cyflenwi. Gellir addasu’r termau’n lleol ond mae hanfodion sy’n berthnasol i bawb.
Mae addysg i gleifion yn annigonol. Mae ôl-groniad
sylweddol o bobl nad ydynt wedi cael addysg strwythuredig.
Mae’r rheini sydd wedi cael addysg yn teimlo ei bod yn
ddefnyddiol, bod ganddynt fwy o reolaeth a’u bod wedi’u
paratoi i ofyn y cwestiynau iawn. Mae angen ei darparu ar yr adegau
y gall pobl fod yn bresennol. Soniwyd am y sesiynau min nos a
gynhelir ddwywaith yr wythnos gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd
a’r Fro, er nad yw’r galw mor uchel ag y disgwyliwyd.
Roedd enghreifftiau o addysg strwythuredig sydd yn helpu i symud
cleifion ymlaen.
Tynnodd Jason Harding sylw at y ffaith bod y Gweinidog wedi dweud bod addysg strwythuredig yn greiddiol i’r Cynllun. Cwestiynodd JH effeithiolrwydd darparu hyfforddiant i grwpiau mawr ond gwnaeth sylw bod angen meddwl am y ffordd orau o helpu’r miloedd o gleifion gan fod cymaint o bobl yng Nghymru’n dioddef o ddiabetes.
Gofynnodd Julie Morgan AC sut y byddai’n bosibl cywiro
anghysondebau mewn profi (unwaith y flwyddyn / ddwywaith y dydd).
Soniodd Ed Rees fod taflenni gwybodaeth newydd yn cael eu profi
drwy Feddygon Teulu er mwyn gwella dealltwriaeth fel addysg a llai
o ofn.
Dywedodd Penny Griffiths mai gyda chleifion math 2 y
mae’r broblem fwyaf o ran profi. Mae llawer o bobl nad ydynt
yn gorfod profi eu hunain yn rheolaidd, ond mae eraill sy’n
gorfod gwneud hynny. Nid yw o blaid profi pob claf. Mae angen
addysg ynglŷn â phwy sydd angen cael eu profi, pryd a
pha mor aml. Ychwanegodd Sarah Davies y cynghorir Meddygon Teulu i
ddarparu 50 stribed brofi’r mis oni bai bod eithriadau lle
mae angen rhagor ar gleifion
Yvonne Johns: Mae angen rhagor o addysg ynglŷn â bwyd a maeth gan nad yw’r rhan fwyaf o gleifion sy’n dioddef o ddiabetes yn deall carbohydradau a chalorïau a’r effaith y mae’r ddau’n eu cael ar lefel y siwgr yn y gwaed. Nododd fod problem gyda rhai pobl ifanc sy’n dioddef o ddiabetes (yn enwedig merched) nad ydynt yn cymryd eu hinswlin. Gwnaeth sylw bod angen sicrhau bod addysg ynglŷn â maeth yn cael ei ategu, ac nid oes yn rhaid i hyn gael ei gyfleu gan nyrs arbenigol neu ddietegydd.
Pwysleisiodd Chris Williams o Novo Nordisk bwysigrwydd addysgu’r boblogaeth i gyd h.y. gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd gyda’r safon gywir o addysg. Mae’r chwe mis cyntaf ar ôl cael diagnosis yn hanfodol i glaf, felly mae’r Meddyg Teulu, y nyrs a’r fferyllydd y daw i gysylltiad â hwy cyn cychwyn ar gwrs i gyd yn bwysig o ran dylanwadu ar y claf hwnnw.
Dai Williams: Mae’n rhaid i glinigwyr weithiau dreulio amser yn cywiro camwybodaeth a roddwyd i glaf yn gynharach yn ystod y broses.
Lynne Hughes: Nid oes gan nyrsys gofal sylfaenol bob amser yr
amser i gael hyfforddiant neu maent yn methu â chael mynediad
at hyfforddiant, hyd yn oed os yw ar-lein.
Wendy Gane: Mae ei sefydliad hi ynghlwm â chwrs hunanreolaeth, sef yr unig un yng Nghymru. Mae angen cael addysg fwy sylfaenol cyn addysg strwythuredig h.y. rhywbeth i fynd adref gyda chi ar ddiwrnod y diagnosis. Nid yw’r rhan fwyaf o grwpiau cyfeirio cleifion yn dda am gynnwys cleifion ac nid yw’n hyderus bod byrddau iechyd yn ymrwymo i gynnwys mwy ar y cleifion.
Chris Dawson: ni fyddai arian ychwanegol ar gael i
ddarparu’r Cynllun hwn.
Mae’n ymwneud â defnyddio adnoddau presennol i
weithio’n well i ddarparu addysg strwythuredig. Roedd yn
cydnabod nad yw gwasanaethau iechyd bob amser yn gwneud y defnydd
gorau o grwpiau fel un Wendy. Byddai gwell gwybodaeth rhwng
gwasanaethau cymunedol a meddygfeydd yn helpu meddygon i fod yn fwy
ymwybodol o’r hyn y gallant gyfeirio cleifion atynt yn eu
cymunedau eu hunain fel y prosiectau maeth Cymunedau yn
Gyntaf.
Gwnaeth Bob Wright sylw ynglŷn â diffyg cynnwys
cleifion ym Mhowys. Atebodd Chris drwy ddweud y byddai’n
ddefnyddiol cael un pwynt cyswllt i gael taflenni gwybodaeth a
rhestr o wefannau gyda sicrwydd ansawdd a hefyd cyfeirio at
sefydliadau’r trydydd sector.
O
ran cynnwys cleifion, dywedodd Chris fod y Gweinidog yn pwysleisio
cyd-gynhyrchu, bod cleifion yn arbenigwyr yn eu gofal ac y gallant
helpu cleifion eraill. Anogwyd rhagor o adborth fel y gellir ei
gyfleu i’r grwpiau gweithredu.
Paul Coker: gellir peidio â sylwi ar seicoleg diagnosis.
I bobl ifanc a phlant yn eu harddegau mae hyn yn arbennig o bwysig.
Mae plant yn tueddu i fod â HPA1C da ond pan fyddant yn
cyrraedd eu harddegau ac yn rheoli’u diabetes eu hunain, mae
eu lefelau HPA1C yn gwaethygu. Mae angen cwnsela ar y grŵp
oedran hwn gan eu bod yn gwadu’u cyflwr.
3. Ymchwiliad byr y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i weithredu’r Fframwaith Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyfer diabetes yng Nghymru a’i gyfeiriad yn y dyfodol.
Gofynnodd y Cadeirydd i David Rees AM a gafodd yr holl argymhellion eu cynnwys yn y Cynllun Diabetes. Dywedodd DR fod cwestiwn yn parhau ynglŷn â’r arweinydd clinigol. Mae angen i addysg fod yn gyson yn genedlaethol. Gofynnodd ynglŷn â chyflymder diagnosis yn y sector sylfaenol ac eilradd. Roedd Dai Williams ac Yvonne Johns yn cytuno bod diagnosis yn cael ei wneud yn ystod gofal eilradd gan amlaf ond bod y safon yn gymysg.
Ynglŷn ag argymhelliad 12 yr adroddiad ar yr argymhelliad
i archwilio nyrsys arbenigol diabetes. Roedd Ed Rees wedi cyfarfod
â’r Prif Swyddog Nyrsio; roeddent wedi cytuno i edrych
ar sut mae nyrsys arbenigol diabetes yn gweithio a sut y cânt
eu defnyddio o fewn timau. Bydd archwiliad a chanllawiau i ddilyn.
Mae agweddau Byrddau Iechyd yn amrywio, ee y gwahaniaethau rhwng
Powys a Chaerdydd.
Sarah Davies: Mae angen dod â nyrsio diabetes i ofal
sylfaenol er mwyn gwella addysg Nyrsys Practis. Mae Caerdydd yn
edrych ar fodel cymunedol h.y. ymgynghorwyr yn cynnal clinigau
rhithwir, yn dod i feddygfeydd ac yn adolygu nodiadau
cleifion
4. Grŵp Cyfeirio Diabetes
Bydd Grŵp Cyfeirio Cymru Gyfan yn cyfarfod ar 19 Rhagfyr.
Bydd Chris Dawson yn anfon y rhestr aelodaeth at y Cadeirydd
i’w dosbarthu
Gofynnodd John Griffiths ynglŷn â’r mater o
gyflogwyr yn cael eu hannog i gefnogi staff i reoli’u cyflwr.
Nododd fod gan y diwydiant bwyd ran fawr i’w chwarae - sut y
gellir dwyn y diwydiant bwyd i gyfrif. Cydnabu’r Cadeirydd
fod hwn yn bwnc mawr a allai fod yn eitem ar gyfer agenda cyfarfod
yn y dyfodol.
Cam i’w gymryd: Eitem i’w ychwanegu at yr agenda
nesaf.
5. Blaen ffrydiau gwaith y Grŵp Trawsbleidiol
Amlinellodd y Cadeirydd y gwaith a wnaethpwyd ar addysg
cleifion a systemau monitro cleifion yn ystod y flwyddyn
ddiwethaf.
Rhoddodd Wendy Gane y wybodaeth ddiweddaraf am yr is-grŵp
retinopathi. Cytunodd y grŵp i ddrafftio rhywbeth ynglŷn
â sut y gellid cwblhau gwaith yr is-grŵp.
Cytunodd y grŵp mai pympiau inswlin a gofal cleifion
preswyl fyddai’r ddau ffrwd gwaith newydd.
Cam i’w gymryd: Ffrydiau gwaith pympiau inswlin a Gofal
Cleifion Preswyl i’w sefydlu
6. Rheolau newydd ynghylch gweithredu grwpiau trawsbleidiol
Amlinellodd y Cadeirydd y rheolau newydd yn ymwneud â
gwaith grwpiau trawsbleidiol. Mae’r rhain yn cynnwys yr angen
am gefnogaeth drawsbleidiol, sydd gan y grŵp. Mae Darren
Millar ac Elin Jones wedi cytuno i noddi ar y cyd. Bydd angen
i’r grŵp gynnal Cyfarfod Blynyddol yn y cyfarfod
nesaf.
7. Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf
Diabetes UK yn lansio adroddiad yn y Senedd ar 27 Tachwedd.
Mae croeso i bawb fod yn bresennol.
Dyddiad cyfarfod nesaf y Grŵp Trawsbleidiol yw dydd Mawrth
4 Mawrth 12.00-1.30pm